Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
03 Mawrth 2025
SL(6)583 – Rheoliadau Cwmnïau RTM (Erthyglau Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) 2025
Gweithdrefn: Gwneud Negyddol
Mae Rheoliadau Cwmnïau RTM (Erthyglau Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) 2025 (“y Rheoliadau”) yn diwygio Rheoliadau Cwmnïau RTM (Erthyglau Enghreifftiol) (Cymru) 2011 (“Rheoliadau 2011”) i wneud newidiadau i’r erthyglau enghreifftiol rhagnodedig ar gyfer cwmnïau Hawl i Reoli (“RTM”).
Yn benodol, yn dilyn newid i'r meini prawf cymhwyso Hawl i Reoli a wneir yn Neddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024, mae’r Rheoliadau’n diwygio'r dull y dyrennir hawliau pleidleisio er mwyn diogelu gallu tenantiaid sy’n aelodau o gwmni RTM i arfer mwyafrif dros landlordiaid sy'n aelodau o gwmni RTM.
Yn unol â rheoliad 2(2) o Reoliadau 2011, bydd yr erthyglau diwygiedig yn cael effaith ar gyfer cwmni RTM p'un a gânt eu mabwysiadu gan y cwmni ai peidio.
Rhiant-Ddeddf: Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002
Fe’u gwnaed ar: 06 Chwefror 2025
Fe’u gosodwyd ar: 10 Chwefror 2025
Yn dod i rym ar: 03 Mawrth 2025